Ezekiel 12

Y Gaethglud i Ddod

1Dyma'r Arglwydd yn rhoi'r neges yma i mi: 2“Ddyn, mae'r bobl rwyt ti'n byw gyda nhw yn griw o rebeliaid. Mae ganddyn nhw lygaid, ond dŷn nhw'n gweld dim byd! Mae ganddyn nhw glustiau, ond dŷn nhw'n clywed dim byd! Criw o rebeliaid ydyn nhw!

3“Felly dyma dw i eisiau i ti ei wneud: Pacia dy fag fel taset ti'n ffoadur yn dianc o'i gartref ac yn paratoi i fynd i ffwrdd i rywle arall. Gwna hyn yng ngolau dydd, fel bod pawb yn gallu gweld beth ti'n wneud. Falle y gwnân nhw ddeall eu bod nhw'n griw anufudd. 4Gad iddyn nhw dy weld di yn pacio dy fag gyda'r pethau rwyt ti eu hangen. Yna gyda'r nos rwyt i fynd i ffwrdd o'u blaenau nhw, yn union fel byddai ffoadur yn gwneud. 5Gad iddyn nhw dy weld di yn torri twll yn y wal, ac yn mynd â dy bac allan trwyddo. 6Yna rho dy bac ar dy gefn, a cherdded i ffwrdd wrth iddi dywyllu. Gorchuddia dy wyneb, a paid edrych yn ôl ar y tir. Dw i'n dy ddefnyddio di fel darlun i ddysgu gwers i bobl Israel.”

7Felly dyma fi'n gwneud yn union beth ddwedodd Duw wrtho i. Yn ystod y dydd dyma fi'n pacio pethau i fynd i ffwrdd fel ffoadur, ac yna pan oedd hi'n nosi dyma fi'n torri twll drwy'r wal. Wedyn, o flaen llygaid pawb, dyma fi'n rhoi'r pecyn ar fy nghefn ac yn cerdded i ffwrdd wrth iddi dywyllu.

8Y bore wedyn dyma fi'n cael neges gan yr Arglwydd: 9“Ddyn, roedd pobl Israel, y criw o rebeliaid yna, wedi gofyn i ti, ‘Beth wyt ti'n wneud?’ 10Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Mae'r neges yma i Sedeceia, pennaeth pobl Jerwsalem, ac i holl bobl Israel sy'n dal yno.’ 11Esbonia dy fod ti'n ddarlun i ddysgu gwers iddyn nhw. Bydd yr hyn wnest ti yn digwydd iddyn nhw. Byddan nhw'n ffoaduriaid, ac yn cael eu cymryd yn gaethion. 12Bydd hyd yn oed Sedeceia, y pennaeth, yn codi ei bac fin nos, yn mynd allan trwy dwll yn y wal ac yn gorchuddio ei wyneb am na fydd yn cael gweld y tir byth eto. 13Ond bydd e'n cael ei ddal. Bydda i'n taflu fy rhwyd drosto, ac yn mynd ag e'n gaeth i Babilon. Ond fydd byth yn gweld y wlad honno lle bydd e'n marw.
12:13 mynd ag e'n gaeth … bydd e'n marw Yn ôl 2 Brenhinoedd 25:6,7, cafodd y Brenin Sedeceia ei ddallu cyn cael ei gymryd yn gaeth i Babilon. A dyna lle buodd e farw – Jeremeia 52:11
14Bydd ei weision a'i forynion, a'i filwyr i gyd yn cael eu chwalu i bob cyfeiriad, a bydd y gelyn yn mynd ar eu holau gyda'i gleddyf. 15Pan fydda i wedi eu gyrru nhw ar chwâl drwy'r gwledydd paganaidd i gyd, byddan nhw'n sylweddoli mai fi ydy'r Arglwydd! 16Ond bydda i'n gadael i griw bach ohonyn nhw fyw. Fydd cleddyf y gelyn, y newyn, a'r haint ddim yn lladd y rheiny. Yn y gwledydd lle byddan nhw'n mynd dw i eisiau iddyn nhw gyfaddef yr holl bethau ffiaidd maen nhw wedi eu gwneud. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r Arglwydd.”

Arwydd y proffwyd yn crynu

17Dyma'r Arglwydd yn rhoi'r neges yma i mi: 18“Cryna mewn ofn wrth fwyta dy fwyd, a dychryn wrth yfed dy ddŵr. 19Yna rhanna'r neges yma: ‘Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud am y bobl sy'n dal i fyw yn Israel a Jerwsalem: “Fyddan nhw ddim yn gallu bwyta ac yfed heb grynu mewn ofn a phoeni am eu bywydau. Mae'r wlad yn mynd i gael ei difetha, a byddan nhw'n colli popeth am iddyn nhw fod mor greulon. 20Bydd y trefi a'r pentrefi lle mae pobl yn byw yn cael eu dinistrio, a bydd y tir yn cael ei adael yn ddiffaith. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r Arglwydd.”’”

Dywediad poblogaidd a neges amhoblogaidd

21Dyma'r Arglwydd yn rhoi'r neges yma i mi: 22“Ddyn, mae yna ddywediad yn Israel, ‘Mae amser yn mynd heibio, a dydy'r proffwydoliaethau ddim wedi dod yn wir.’ 23Felly dywed di wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i roi stop ar y math yna o siarad. Fydd pobl Israel ddim yn dweud hynny eto!’ Dywed wrthyn nhw, ‘Yn fuan iawn bydd popeth dw i wedi ei ddangos yn dod yn wir! 24Fydd yna ddim mwy o weledigaethau ffals a darogan pethau deniadol yn Israel. 25Fi, yr Arglwydd fydd yn siarad, a bydd beth dw i'n ddweud yn dod yn wir. Fydd dim mwy o oedi. Bydd beth dw i'n ddweud yn dod yn wir yn eich cyfnod chi rebeliaid anufudd.’ Dyna neges y Meistr, yr Arglwydd.”

26Dyma'r Arglwydd yn rhoi'r neges yma i mi: 27“Ddyn, wyt ti wedi clywed beth mae pobl Israel yn ei ddweud? ‘Sôn am rywbryd yn bell yn y dyfodol mae e. Fydd y broffwydoliaeth ddim yn dod yn wir am amser hir iawn.’ 28Felly dywed di wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Fydd dim mwy o oedi! Bydd beth dw i'n ddweud yn dod yn wir!’” Dyna neges y Meistr, yr Arglwydd.

Copyright information for CYM